Dr Sherif Khalifa
Amdanaf i
Mae meddygaeth a gofal iechyd wedi dod yn fwy cymhleth. Dyna pam, beth bynnag fo'ch anghenion iechyd, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cymryd agwedd holistig at eich gofal. Credaf mewn cynnig profiad personol gyda pharhad gofal, sy'n golygu y byddwch chi bob amser yn gweld fi yn ystod eich ymweliadau. Fedrwch chi ymgynghori drwy'r Gymraeg neu'r Saesneg a byddaf yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod chi'n derbyn y gofal gorau posibl.
Rwy'n Bartner ym Meddygfa Canna yng Nghaerdydd. Cyn i mi hyfforddi fel Meddyg Teulu, fe wnes i hyfforddiant arbenigol mewn pediatreg a dyma lle cychwynodd fy ymarfer holistig. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn alergeddau ac ecsema mewn oedolion a phlant, ȃ ddatblygais trwy weithio yn Wasanaeth Alergedd Plant Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Rwy'n mwynhau cyfathrebu pynciau iechyd mewn ymgynghoriadau, mewn sesiynau addysg i weithwyr gofal iechyd ac i'r cyhoedd yn fy slot rheolaidd ar Prynhawn Da ar S4C. Y tu allan i feddygaeth fe welwch fi reidio fy meic a threulio amser gyda fy ngwraig a'n tri phlentyn.
Cymwysterau
GMC no: 7081950
MBBCh (University of Wales, Cardiff) 2010
MRCPCH (Royal College of Paediatrics and Child Health) 2018
MRCGP (Royal College of General Practise) 2020

Cenhadaeth
Rwy'n ymwybodol nad oes gan bawb fynediad at barhad gofal a dull holistig o'u problemau iechyd. Rwyf am ddarparu hyn yn fy ymarfer preifat. Fy nod yw creu awyrgylch cyfeillgar, cyfforddus ac ymgynghorol sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol ac yn hyderus yn ystod pob cam o'ch taith gofal iechyd.